St David’s Day: Parliament and the Welsh Language/Dydd Gwyl Dewi: Y Senedd a’r Iaith Gymraeg.

To mark St David’s Day this year, we are publishing a translation into Welsh of a blog written in 2018, which provides an overview of relations between the Westminster Parliament and the Welsh language. There will no doubt be future legislation on the language, but its locus will be the Senedd in Cardiff rather than the Houses of Parliament in London. We are very grateful to Elinor Talfan Delaney, Council member of the Honourable Society of Cymmrodorion, for the translation.

Yn y blog yma mae Stephen Roberts, Cyfarwyddwr Emeritws, Hanes y Senedd, Llundain, yn archwilio’r  berthynas rhwng y Senedd a’r Iaith Gymraeg o’r unfed ganrif ar bymtheg hyd at yr ugeinfed ganrif…

Ym 1536, nodwyd mewn rhaglith i statud seneddol, fod y Cymry ‘wedi ac yn defnyddio iaith heb fod yn debyg nac yn gytseiniol â’r famiaith a ddefnyddir o fewn y deyrnas hon’ a hawliodd i resynu yn erbyn ceisiadau gan ‘bobol anghwrtais ac anwybodus’ i wneud ‘gwahaniaeth ac amrywiaeth’ rhwng Saesneg y brenin a’r deiliaid Cymreig, fel bo ‘anghydfod, amrywiant, dadl, cynnen, murmuriadau a thrychineb’ wedi tyfu rhyngddynt. Cafodd Harri’r V111fed (a feddodd wrth gwrs, dad Cymreig) ei ysgogi yn y penderfyniad, yn ôl geiriau’r statud, gan ‘sêl arbennig, gan gariad a ffafr’ a oedd yn dwyn tuag at y Cymry, i osod arnynt drwy drefn y Senedd ‘perffaith drefn hysbysiad a gwybodaeth’ o’r deddfau Saesneg ac i ‘ddileu’ pob defnydd o’r Gymraeg a’i harferion a oedd yn wahanol i’r Saesneg. Aeth y ddeddf newydd yn ei flaen i egluro’n fanwl y goblygiadau: cyfeddiannaeth Cymru i Loegr; gorfodaeth cyfraith Loegr a deiliadaeth Saeson ar eiddo; disodli arglwyddiaethau’r Gororau a’r siroedd Cymreig gyda threfn o siroedd newydd a threfi sirol; sefydlu trefn lle bo pob sir Cymreig yn dychwelyd Aelod Seneddol a phob tref sirol, Aelod arall. Gorfodwyd yn arbennig, Saesneg fel iaith y llysoedd a gwaharddwyd defnydd y Gymraeg ynddynt, yn mynegi’n anghyfreithlon i Gymro uniaith ddal swydd gyhoeddus.

Roedd darpariaethau’r statud yn bellgyrhaeddol a pharhaus.  Newidiwyd yr etholiaethau Cymreig yn dameidiog, ac hynny ond oddiar 1832 a pharhaodd y siroedd Cymreig newydd hyd at 1974. Er i statud 1536 wahardd y defnydd o’r Gymraeg yn y llysoedd, nid oedd cyfarwyddiadau ynddo i wahardd yr iaith ymysg y werin bobol ac ni cheisiodd i ‘ddileu’ y Gymraeg fel y cyfryw fel y mai rhai yn honni. Yn ymarferol, er mai Saesneg a Lladin oedd dwy iaith swyddogol y llysoedd a gweithredoedd cyhoeddus, profwyd yn amhosib i gadw’r Gymraeg allan o’r llysoedd am fod angenrhaid i sicrhau mynediad i hawliau cyfreithlon i Gymry uniaith. Roedd cyfieithwyr, pa mor answyddogol, amatur, aflednais a rhagfarnllyd i gyfiawnder cyfreithlon eu hymdrechion, yn rhan annatod o achosion cyfreithlon Cymru. Ni gychwynodd y Senedd chwaith ar unrhyw ymgyrch i ddileu’r Gymraeg.

Map o Gymru o ‘John Speed’s pocket atlas of Great Britain’, gan Peter Van Den Keere, 1627

Gellir disgrifio agwedd Seneddau’r Tuduriaid a’r Stiwardiaid tuag at y Gymraeg yn un o esgeulustod diniwed neu o ddiddordeb ysgafn ac anwadal. Ond ym myd crefydd gyhoeddus, cafwyd bygythiad yn ystod oes Elizabeth 1af i  duedd  Deddf Undeb Harri i danseilio statws ac ansawdd y Gymraeg. Wedi’i sbarduno gan ddyneiddwyr dysgedig y dadenni, cafwyd ymgyrch lwyddiannus i argraffu’r Testament Newydd yn y Gymraeg (1567) a’r Beibl cyfan (1588) ac fe ddaethant yn sail i ffurf, strwythur a safon yr iaith am genedlaethau i ddod. Roedd cenadwri dygn y Protestanwyr a adnabyddir fel y Piwritaniaid yn ystod un cyfnod ac Anghydfurfwyr yn y nesaf, yn gweithio gyda graen iaith y werin yn hytrach nag yn ei erbyn. Byrhoedlog oedd  Deddf Lluosogi’r Efengyl yng Nghymru (1650) ond ni chafwyd gair ynddo am y Gymraeg, ond wedi’u gyrru gan ddymuniad diffuant i ymgysylltu a’r werin bobol cafwyd ymdrech deg i sicrhau darpariad o bregethwyr ac athrawon yn rhugl yn y Gymraeg. Serch hynny roedd sawl un yn ategu geiriau gweinidog Cymreig yn 1641: ‘Os yw’n gofal yn nwylo ein marchogion seneddol a’n bwrdeiswyr Cymreig, hedodd ein gobaith’.

Cymro, a oedd yn aelod dros Gofentri, oedd a chyfrifoldeb Seneddol dros gychwyn yr ymgyrch swyddogol ddiarhebol yn erbyn y Gymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Datgelodd y Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales (1847) y maint yr oedd strwythurau addysgol a chyfreithiol y wlad, y cwbwl wedi’u seilio ar y defnydd o Saesneg, wedi gwyro oddi wrth iaith a diwylliant y werin. Er bod yr Adroddiadau wedi’u seilio ar ymchwil ddiwyd, roeddent yn adlewyrchu rhagfarn a rhagdybiaethau dosbarth llywodraethol y dydd, gan greu darlun truenus o addysg yng Nghymru, gan honni fod y sefyllfa wedi’i waethygu gan barhad y Gymraeg. Modd bynnag, erbyn hyn bu dadeni ar farn gyhoeddus Cymru a gafodd lais drwy’r wasg a’r pulpud ac yn gyflym iawn daeth ‘brad y Llyfrau Gleision’ yn ddiarhebol am gynrychioli rhagfarn anwybodus y Saeson a daeth yr ymsyniad yma yn gonglfaen i elfennau anghydffurfiol poblogaidd a diwylliant Rhydfrydiaeth yng Nghymru yn oes Victoria.

Mae hanes diweddar y berthynas rhwng y Gymraeg a’r Senedd yn creu darlun o’r gwirionedd hanfodol fod y Senedd  yn bodoli mewn perthynas gymleth ac aml-gyfeiriadol gyda’r gymdeithas mae’n gwasanaethu. Gwelwyd ffyniant yn sefydliadau diwylliannol Cymreig yn ystod anterth Rhyddfrydiaeth Victoraidd ac Edwardaidd Cymru ond ar ol 1891, datgelodd dilyniaeth o gyfrifiadau brawf ystadegol o’r dirywiad yn y nifer o Gymry Cymraeg ac yn yr ugeinfed ganrif rhoesant awch i’r ymdrechion i arbed yr iaith, rhag y dirywiad didostur yma. O’r 1890s ymlaen, lluniwyd addysg gyhoeddus yng Nghymru gan swyddogion blaengar a gweledigaethol, gan gychwyn ar y llwybr o gydnabod dilysrwydd y Gymraeg a rhoi lle i’r iaith a’i llenyddiaeth mewn ysgolion cynradd, uwchradd a thrydyddol. Erbyn y 1960s, ac wedi amryw engraifft o anufudd-dod sifil gyhoeddus, daeth symudiad cymdeithasol i’r amlwg a oedd yn benderfynnol o roi terfyn ar ddirywiad yr iaith ac yn bennaf yn adlewyrchu agweddau o wleidyddaeth cenedlaetholgar Cymreig. Crewyd cyfrwng newydd i roi llais i’r pwnc gan ddarlledu sector gyhoeddus, yn uniongyrchol gyda’r defnydd o raglenni Cymraeg ac yn ail drwy drafodaethau ar y radio a’r teledu. Daeth cyfarwyddwyr darlledu i’r amlwg fel eiriolwyr dros yr iaith, i gymryd lle y gweinidogion a’r athrawon.

Crewyd hinsawdd o wasgedd anorchfygol gan ddycnwch elfennau o’r dosbarth proffesiynol ac aml ymgyrch ddewr gan weithredwyr uniongyrchol, yn galw am ymateb deddfwriaethol. Yn ystod cyfnod llywodraethol y Blaid Lafur 1964-7, a oedd yn meddu cefnogaeth bleidiol y mwyafrif o aelodau seneddol Cymreig, sefydlwyd gweinidogaeth newydd i ymdrin â materion Cymreig, sef y Swyddfa Gymreig. Llwyddodd y Welsh Language Act 1967 , ‘ddileu’, (chwedl y deddfwrwyr Tuduraidd), i raddau helaeth,  ‘cymal iaith’ drwg-enwog Deddf 1536. O hyn allan cafwyd dilysrwydd cyfartal i’r Gymraeg a’r Saesneg yn y llysoedd er nad oedd gorfodaeth i gyrff cyhoeddus hybu’r egwyddor o gyfartaledd. Ym 1993, o dan lywodraeth Ceidwadol, disodlwyd y geiriau ‘sail cyfartaledd’ gan ‘ddilysrwydd gyfartal’ yn Neddf yr Iaith yn yr un flwyddyn. Sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg gan Ddeddf 1993 gyda’r dasc o hybu’r iaith Gymraeg fel iaith a dilysrwydd gyfartal a’r Saesneg. Fe all mai dyma’r statud olaf o San Steffan i ymdrin a’r iaith: yn 2012 diddymwyd Bwrdd yr Iaith a throsglwyddwyd ei phwerau i Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg, sy’n atebol i Lywodraeth ddatganoledig Cymru a’r Senedd yng Nghaerdydd.

Bu’r berthynas rhwng y Senedd a’r iaith Gymraeg yn un amryliw ac weithiau’n llai na gogoneddus. Datgelodd allu a gafael y statud yn ogystal a’r modd y cafodd bwriad y deddwyr ei rwystro. Ymgorfforwyd, yn eu ffyrdd eu hun, gan ddeddfau 1536 a 1993, ysbryd yr oes a’u creodd, gan ymgorfforu uchelgais y wladwriaeth Tuduriaidd yn y cyntaf ac yn yr ail, egwyddor cyfartaledd deddfwriaethol diwedd yr ugeinfed ganrif. Yn y pen draw, er gwell er gwaeth, mae’r Senedd yn hawlio rôl, pa mor droellog neu amwys, i sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg, bu ei goroesiad fel cyfrwng bywiog ar lafar ac mewn llên, dim llai na gwyrth diwylliant Ewropeaidd.

S.R

Translated by Elinor Talfan

One thought on “St David’s Day: Parliament and the Welsh Language/Dydd Gwyl Dewi: Y Senedd a’r Iaith Gymraeg.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s